Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru | Follow up work on Marine Protected Area management in Wales

MPA06

Ymateb gan : Dŵr Cymru

Evidence from : Welsh Water

 

Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru

 

Mae’r Pwyllgor yn edrych eto ar ei ymchwiliad i’r gwaith o reoli rhwydwaith Cymru o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, er mwyn asesu’r cynnydd a wnaed ers i’w adroddiad dylanwadol, “Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig" gael ei gyhoeddi yn 2017.

 

Mae Dŵr Cymru yn chwarae rhan weithredol yn gwarchod yr amgylchedd morol.  Hyd yma, rydym wedi buddsoddi dros £1 biliwn mewn gwelliannau i ddyfroedd arfordirol yn unig, gan wneud lles mawr i ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru yn neilltuol, ond hefyd i'r amgylchedd morol yn ehangach.  Rydym yn dal i gydweithio â’n rheoleiddwyr er mwyn cytuno ymhle y dylem wneud rhagor o welliannau yn y blynyddoedd sydd i ddod, gan gadw mewn cof yr angen i sicrhau bod ein biliau’n fforddiadwy i’n cwsmeriaid.

 

Er mwyn casglu mwy o dystiolaeth, rydym wedi buddsoddi yn natblygiad modelau morol newydd fel y gallwn asesu effeithiau ein gwaith ar yr amgylchedd morol.  Yn ogystal a gweld effeithiau ein gwaith ni, mae’r modelu wedi dangos bod llygredd gwasgaredig, yn enwedig o waith amaethyddol, yn dal i gael effaith ar ran helaeth o'r amgylchedd morol ar hyd arfordir Cymru. 

 

Bydd adolygiad cyfredol eich Pwyllgor chi yn edrych ar waith y Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig.  Mae Dŵr Cymru’n aelod ac fe wnaethom ni gefnogi’r gwaith o gyhoeddi Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.  Fodd bynnag, gan nad yw sectorau fel amaethyddiaeth yn “Awdurdodau Rheoli”, maent y tu allan i gwmpas uniongyrchol y Fframwaith.  Er mwyn i Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru gyrraedd cyflwr ffafriol, mae’n bwysig peidio ag anwybyddu effeithiau ffermio, pysgota a sectorau eraill.

 

Ers rhyw ddwy flynedd, bu’r Grŵp Llywio’n goruchwylio datblygiad y Cynllun Gweithredu.  Mae hyn yn cynnwys nifer o gynlluniau a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac y mae’n debygol na fyddent wedi’u gwireddu fel arall.  Caiff y rhan fwyaf ohonynt eu cyflenwi gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r nod cyffredinol yw bod o fudd i'r rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gyffredinol.  Rydym yn croesawu’r cynlluniau hyn yn fawr iawn.


 

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru yn cefnogi’r achos dros grwpiau lleol sy’n canolbwyntio ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig mewn man penodol.  Ers blynyddoedd rydym wedi cynnig tipyn o gymorth ariannol i bob un o’r pedwar Grŵp Awdurdodau Perthnasol yng Nghymru ac fe’n cynrychiolir yn llawer o’u cyfarfodydd.  Rydym wedi gweld tystiolaeth ysgrifenedig fod Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol yn bwriadu cyflwyno sylwadau i'ch ymchwiliad chi a byddem yn cefnogi swm a sylwedd eu hachos nhw.

 

Tony Harrington

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd